Pro14: Gleision Caerdydd 10-20 Caeredin

  • Cyhoeddwyd
caerdyddFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae tymor Gleision Caerdydd wedi dechrau ar nodyn gwael, wedi iddyn nhw golli gartref i Gaeredin ar noson gyntaf y gynghrair.

Y blaenwr Josh Navidi sgoriodd unig gais y Gleision gyda Jarrod Evans yn ei throsi, ac fe lwyddodd Evans i ychwanegu tri phwynt at sgôr terfynol y Gleision gyda chic gosb lwyddiannus.

Y cefnwr Blair Kinghorn a'r canolwr Chris Dean oedd sgorwyr ceisiau Caeredin, gyda Duncan Weir yn cicio'r pwyntiau ychwanegol.

Dywedodd hyfforddwr y Gleision, Danny Wilson wrth BBC Cymru nad oedd yn "noson dda" i'w garfan, a'i fod yn "rhwystredig".

"Roeddem yn cael trafferth gyda'n gêm gicio yn yr hanner cyntaf ac roedd ein perfformiad wrth gystadlu am y bêl yn gyffredinol yn wael, ac mi oedd hynny'n golygu nad oeddem ni'n gallu chwarae'r arddull na chyflymder yr oeddem eisiau ei chwarae."