Morgannwg yn colli'n erbyn y Birmingham Bears yn y T20

  • Cyhoeddwyd
MorgannwgFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Jaques Rudolph 65 rhediad i Forgannwg

Colli fu hanes Morgannwg yn rownd gynderfynol y T20 Blast yn Edgbaston.

Fe gurodd Birmingham Bears dîm Robert Croft o 11 rhediad yng ngêm gyntaf diwrnod ffeinals y bencampwriaeth 20 pelawd.

Yr her i Forgannwg oedd curo cyfanswm y Bears wedi iddyn nhw gwhblau eu batiad ar 175-9.

Er i Forgannwg golli wicedi'n gynnar, fe sgoriodd y capten, Jacques Rudolph 65 rhediad gan gadw'r gobeithion o gyrraedd y rownd derfynol yn fyw.

Yn y pendraw, fodd bynnag, doedd hynny ddim yn ddigon ac roedd pob un o chwaraewyr Morgannwg allan am 164.

Mae'r Birmingham Bears nawr yn aros i weld ai Hampshire neu'r Notts Outlaws fydd eu gwrthwynebwyr yn y rownd derfynol.

'Balch'

Er gwaetha'r golled, dywedodd Rudolph wedi'r gêm ei fod yn falch o berfformiad ei dîm drwy'r tymor: "Dwi'n credu y gallwn ni fod yn falch iawn o'r hyn ry' ni wedi ei wneud yn ystod yr ymgyrch.

"Yn y gemau cynderfynol hyn mae'n rhaid gwneud pethau'n hollol iawn.

"Roedd ambell i ddigwyddiad ar y cae pan y gallen ni fod wedi arbed ambell rediad, ond dwi'n falch iawn o'n carfan ni."

Straeon perthnasol