Ymddygiad yn 'peryglu enw da' Cyngor Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae bwlio a gwahaniaethu yng nghyngor Caerdydd, yn ogystal ag ymddygiad mewn cyfarfodydd, yn peryglu enw da'r awdurdod, medd adroddiad.
Mae cynghorwyr yn cael cynnig cymorth ar ôl i arolwg ddod i'r casgliad bod tua thraean ohonyn nhw wedi bod yn dystion i fwlio.
Dywedodd adroddiad gan bwyllgor moeseg y cyngor fod pryder ynghylch ymddygiad rhai cynghorwyr ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn cyfarfodydd.
Dywedodd Cyngor Caerdydd y gallai gwaith cynghorydd fod yn heriol.
Côd ymddygiad
Dywedodd llefarydd fod rhaid i bob cynghorydd etholedig gadw at reolau côd ymddygiad y cyngor, yn ôl y gyfraith, gan ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw drin pobl â pharch.
Mae'r adroddiad blynyddol drafft gan bwyllgor safonau a moeseg yr awdurdod - a fydd yn cael ei ystyried ddydd Llun - yn amlygu pryderon am ymddygiad cynghorwyr ar gyfryngau cymdeithasol ac yng nghyfarfodydd llawn y cyngor.
Dangosodd arolwg a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2017 - cyn etholiadau lleol Mai - fod tua thraean y cynghorwyr a ymatebodd wedi gweld "rhywfaint o ymddygiad bwlio".
Nododd cadeirydd y pwyllgor, Richard Tebboth: "Fe rannodd aelodau'r pwyllgor bryder eang ynghylch lefelau ymddygiad mewn rhai cyfarfodydd cyngor llawn - a denodd sylw anffafriol ar y cyfryngau cyhoeddus gan beryglu enw da'r cyngor yn gyffredinol.
"Mae hefyd yn tanseilio'r ymroddiad gwych y mae cynghorwyr unigol yn ei roi i'w gwaith bob dydd yn eu rôl. Mae'r cyngor newydd yn rhoi cyfle i ddechrau newydd yn hyn o beth."

Casgliadau eraill o'r adroddiad:
• Rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017, gwnaed 18 cwyn yn erbyn cynghorwyr yn honni bod y côd ymddygiad yn cael ei dorri - roedd y mwyafrif yn cael eu datrys yn anffurfiol a dim ond un sy'n cael ei ystyried gan yr ombwdsmon
• O'r rhain, gwnaed 13 gan aelodau'r cyhoedd, tra bod pump yn dod o gynghorwyr eraill
• Aeth cyfarfodydd llawn y cyngor ymlaen ar yn "rhy hir" gan ei gwneud yn anodd i aelodau â phroblemau iechyd, a'i gwneud hi'n anodd i gynghorwyr "cadw canolbwyntiad"
• Mae cynllun cynghori cyfrinachol i weithwyr wedi'i ymestyn i gynghorwyr
• Dylai cynghorwyr "ei gwneud yn glir" ar y cyfryngau cymdeithasol pan fyddan nhw'n gwneud sylwadau personol yn hytrach nag fel cynghorwyr - "defnyddio cyfrifon ar wahân fel y bo'n briodol"

Ym mis Mawrth, cafodd cynghorydd Plaid Cymru Neil McEvoy ei wahardd am fis ar ôl i dribiwnlys ddod i'r casgliad fod sylw a wnaeth i swyddog yn gyfystyr â "ymddygiad bwlio".
Mynychodd aelodau'r pwyllgor gyfarfodydd cyngor llawn - lle mae'r 75 o gynghorwyr yn mynychu - i wylio a chodi pryderon am "ymddygiad a diffyg parch", dywed yr adroddiad.
Bu'r Cynghorwyr yn siarad ar draws ei gilydd, ac fe welwyd llawer yn gadael yn gynnar.
Dywedodd y Cynghorydd Fenella Bowden, yn annibynnol ar ward Heath, ei bod hi wedi profi bwlio: "Mae'n ymddygiad bygythiol, dwi'n anabl ac mae'r gwahaniaethu dwi wedi ei brofi am nad o'n i ddim am sôn amdani, oherwydd nad oeddwn yn teimlo bod rhaid i fi, wedi bod yn warthus," meddai.

Dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, y Cynghorydd Adrian Robson, fod pethau wedi tawelu rhywfaint ers yr etholiad.
"Yn anffodus, yn ystod y cyngor diwethaf, roedd achosion lle roedd ymddygiad rhwng cynghorwyr yn annerbyniol ac weithiau, parhaodd hynny ar y cyfryngau cymdeithasol," meddai.
Dywedodd arweinydd grwp y Democratiaid Rhyddfrydol yn y cyngor, Joe Boyle: "Mae cyfarfodydd y cyngor dros y blynyddoedd diwethaf yn aml wedi bod yn anrhefnus a digyfeiriad ac wedi methu a gwasanaethu trigolion Caerdydd.
"Roedd ymddygiad anghwrtais yn llawer rhy gyffredin. Mae gan bawb gyfrifoldeb personol i ymddwyn yn aeddfed ond does dim amheuaeth fod peth o'r colli tymer yn ganlyniad i'r rhwystredigaeth a diffyg safon y cyfarfodydd."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Neil McEvoy "y dylai safbwyntiau gwahanol gael eu clywed a'u parchu, ac na ddylid gweiddi drostyn nhw, na cheisio eu tawelu."
Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Caerdydd ei bod yn ofynnol i bob aelod etholedig fynychu sesiwn sefydlu ar y côd ymddygiad, lle trafodir ymddygiad.
"Gall rôl y cynghorydd fod yn straen am lawer o resymau ac i lawer, mae'n golygu dygymod â gwaith ac ymrwymiadau teuluol ochr yn ochr â'u rôl fel cynghorydd. Am y rhesymau hyn, mae'r cynllun cynghori cyflogai presennol wedi ei ymestyn i gynghorwyr."