Rhagweld dyfodol disglair i Woodburn gyda Chymru
- Cyhoeddwyd

Fe allai Ben Woodburn ddatblygu i fod yn chwaraewr gwerthfawr i Gymru, medd rheolwr y tîm cenedlaethol Chris Coleman.
Fe sgoriodd yr ymosodwr 17 oed o fewn munudau i redeg ar y cae yn ei gêm gyntaf dros ei wlad yn erbyn Awstria nos Sadwrn, gan roi hwb i obeithion Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
Roedd Coleman yn ofalus rhag ei gymharu a sêr fel Gareth Bale a Ryan Giggs, ond dywedodd: "Dwi'n gwybod fod ei ergyd yn wych, ond roedd ei holl agwedd yn wych hefyd."
"Mae ganddo'r holl nodweddion i fod yn chwaraewr mawr," ychwanegodd Coleman.
"Mae e wedi dechrau'n dda. Gyda chwaraewyr ifanc, dwi ddim yn hoffi dweud.
"Mae George Williams a Jon Williams yn enghreifftiau da, maen nhw'n dal yn ifanc â llawer o bêl-droed i'w chwarae."

Roedd ergyd Woodburn yn wych, medd Coleman
Wedi'r gêm, dywedodd Woodburn fod sgorio yn ei gêm gynta'n "gwireddu breuddwyd" iddo.
"Mae'r rheolwr a'r chwaraewyr wedi bod yn wych. Maen nhw wedi fy helpu i a fy nhrin i fel un ohonyn nhw, felly mae hi wedi bod yn hawdd bondio efo pawb."
Dywedodd dirprwy reolwr Cymru, Osian Roberts nad oedd perfformiad Ben Woodburn wedi ei synnu o gwbl: "Clod mawr i Ben, mae o'n hogyn ifanc arbennig iawn, mae o wedi bod efo ni ers blynyddoedd, da ni'n falch iawn ohono fo.
"A dyna sy'n bwysig, bod gynnon ni'r genhedlaeth ifanc o chwaraewyr sydd yn dod drwadd i atgyfnerthu beth sy gynnon ni fel grŵp sbesial iawn o chwaraewyr."
Roedd curo Awstria yn fuddugoliaeth 'enfawr' medd Ben Davies
Un arall oedd yn hael ei ganmoliaeth o Ben Woodburn oedd Ian Rush:"Dwi wedi bod yn gweithio gyda Ben ers pan oedd yn 14 oed ac mae ganddo agwedd wych, mae'n cadw ei draed ar y ddaear.
"Dwi'n gwybod fod Lloegr wedi bod ar ei ôl am rai blynyddoedd, fe allai fod chwarae dros Loegr ond roedd e mor angerddol ei fod yn Gymro.
"Drwy chwarae gydag Aaron Ramsey a Gareth Bale a'u tebyg, dwi'n credu ei fod e nawr yn sylweddoli sut fyd yw hyn."
Fe fydd Ben Woodburn nawr yn teithio gyda charfan Cymru ar gyfer y gêm nesaf yng ngemau rhagbrofol grŵp D ym Moldofa nos Fawrth 5 Medi.

Ben Woodburn yn dathlu gyda'r dorf wedi'r gôl