Joe Allen i gryfhau ymdrech Cymru ym Moldofa

  • Cyhoeddwyd
Joe Allen a Neil TaylorFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae disgwyl i Joe Allen gymryd ei le yng nghanol cae Cymru nos Fawrth pan fydd tîm Chris Coleman yn wynebu Moldofa.

Mae Allen a Neil Taylor wedi ymuno â'r garfan ar ôl cael eu gwahardd rhag chwarae yn y fuddugoliaeth yn erbyn Awstria nos Sadwrn.

James Collins a Jonny Williams yw'r ddau sydd wedi cael eu rhyddhau o'r garfan.

Mae'r garfan yn teithio i Chişinău, prifddinas Moldofa dydd Llun.

Bydd Coleman yn cynnal cynhadledd newyddion ar ôl cyrraedd Moldofa, ond hyd yma does dim adroddiadau o unrhyw anafiadau yn y garfan.

'Gweld eisiau Allen'

Yn ôl Iwan Roberts, cyn ymosodwr Cymru, mae Joe Allen yn sicr o gael ei ddewis i ddechrau'r gêm yn Stadiwm Zimbru.

Ar adegau roedd canol cae Cymru yn ymddangos yn fregus hebddo yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Awstria.

Ben WoodburnFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ben Woodburn ar ôl iddo sgorio mai ei nod oedd helpu'r tîm 'cymaint â phosib'

"Roedd Cymru yn gweld eisiau Allen yn fawr nos Sadwrn. Mae'n rhoi rhywbeth ychwanegol i chi.

"Fyddai David Alaba ddim wedi cael yr un lle ac amser i chwarae i Awstria yn yr hanner cyntaf nos Sadwrn petai Allen yn y tîm," meddai.

Bydd yn rhaid i Chris Coleman hefyd benderfynu a fydd yn gofyn i'r bachgen 17 oed, Ben Woodburn, ddechrau'r gêm neu aros ar y fainc.

Fe ddaeth Woodburn ymlaen yn lle Tom Lawrence ac ennill ei gap cyntaf cyn sgorio unig gôl y gêm ar ôl 74 munud.