Symud pobl wedi tân mewn siop yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd pobl eu symud o'u cartrefi ar ôl i dân ddechrau mewn siop yng Nghasnewydd fore Mawrth.
Dechreuodd y tân mewn siop wag ar Commercial Street am tua 04:10.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, fod yn tân wedi dechrau oherwydd offer trydanol diffygiol, ac fe gafodd preswylwyr o fflatiau uwchben y siop gais i ymadael, fel mesur diogelwch.
Anfonwyd pum peiriant tân a llwyfan hydrolig i ddelio gyda'r tân.