Rhybudd bod angen i Gaerdydd ailgylchu mwy neu wynebu dirwy

  • Cyhoeddwyd
ailgylchu

Mae adroddiad wedi rhybuddio y gall Cyngor Caerdydd wynebu dirwyon o £21m, oni bai eu bod yn ailgylchu mwy na 90,000 o dunelli o wastraff ychwanegol yn ystod y tair blynedd nesaf.

Mae'r adroddiad yn amcangyfrif bod angen ailgylchu 32,000 tunnell fetrig ychwanegol y flwyddyn yn y ddinas i gyrraedd eu targedau erbyn 2020, a hynny yn bennaf oherwydd twf ym mhoblogaeth y ddinas.

Mae'r cyngor yn edrych i'r posibiliadau o agor canolfan rhanbarthol i ddidoli gwydr, papur a phlastig ar draws de Cymru.

Dywedodd yr adroddiad gan bwyllgor craffu amgylchedd y cyngor nad oedd "gwneud dim yn opsiwn".

Nid yw Llywodraeth Cymru - sydd wedi gosod y targedau ailgylchu statudol cyntaf yn y DU - wedi dirwyo unrhyw awdurdod am fethu a chyrraedd eu targed hyd yma.

Y targed ar gyfer 2016-17 oedd 58%, gan godi i 64% erbyn 2019-20, ac yna 70% erbyn 2024-25.

ailgylchu

Mae unrhyw awdurdod sy'n methu cyrraedd y targedau yn wynebu cosb o £200 y dunnell.

Y llynedd roedd tri awdurdod wedi methu â chyrraedd eu targed - dim ond o drwch blewyn oedd Casnewydd a Thorfaen yn methu a chyrraedd y 58% angenrheidiol, tra bod y perfformiad gwaethaf ym Mlaenau Gwent ar 49%. Ni chafodd yr un ohonynt eu cosbi am eu methiant.

Eleni mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod cyngor Casnewydd wedi gwneud yn well na'r targed, ar 61% ar gyfer 2016-17, Torfaen wedi codi i 64% ac roedd yna gynnydd hefyd ym Mlaenau Gwent ar 57%.

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Caerdydd: "Mae'r cyngor yn gweithio gyda phum awdurdod lleol i drin gwastraff na ellir ei ailgylchu.

"Mae'r bartneriaeth hon yn rhoi manteision sylweddol i ni, fel trwy gydweithio mae modd cyflwyno arbedion, mae'r pris ar gyfer pob un o'r partneriaid i drin y gwastraff hwn yn is na phe baent yn gweithio'n unigol.

"Gan ddefnyddio'r un rhesymeg, mae Caerdydd yn bwriadu cynnal astudiaeth ddichonoldeb i archwilio ffurfio partneriaeth ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy sych, ond nid oes penderfyniad wedi'i wneud hyd yma."