Cwmni adeiladu Redrow wedi gwneud yr elw mwyaf erioed
- Cyhoeddwyd

Mae Redrow wedi cyhoeddi eu bod wedi gwneud yr elw mwyaf erioed yn eu hanes.
Roedd elw'r cwmni o Sir y Flint yn £315m yn ystod 2016-17; cynnydd o 26% o gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol.
Yn ôl Redrow mae disgwyl iddyn nhw gael trosiant ariannol o £3.3bn erbyn 2020 ac elw o £430m erbyn y flwyddyn hynny.
Galw am dai newydd
Roedd y canlyniadau yn well na'r disgwyl - ond fe rybuddiodd y cwmni bod angen cytundeb Brexit buan ynglŷn â sefyllfa gweithwyr o'r Undeb Ewropeaidd sydd yn gweithio yn y diwydiant.
Yn ôl cadeirydd Redrow Steve Morgan roedd galw am dai y cwmni yn gadarn gan fod cyfraddau llog yn isel, ac roedd prinder tai yn y farchnad yn gyffredinol.
Yn ôl Mr Morgan mae'r galw am dai newydd yn "gryf."
"Dyw'r cwmni ddim wedi gweld unrhyw effaith oherwydd y digwyddiadau gwleidyddol mawr ym Mhrydain ac yn rhyngwladol."