Economegydd blaenllaw yn lladd ei hun wedi diagnosis o ME
- Cyhoeddwyd

Clywodd cwest i farwolaeth yr economegydd Martin Rhisiart iddo ladd ei hun ar ôl cael gwybod ei fod yn dioddef o gyflwr ME.
Clywodd y cwest hefyd fod yr Athro Martin Rhisiart, a oedd yn 43 oed, wedi bod yn dioddef o iselder a gorbryder ers rhai blynyddoedd oherwydd pwysau gwaith ond bod cael gwybod ei fod yn dioddef o ME yn ergyd bellach.
Ym mis Mehefin eleni cafwyd hyd i gorff Dr Rhisiart, a oedd yn ŵr ac yn dad i ddau o blant yng ngharej cartre'r teulu yng Nghaerdydd.
Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd ei wraig Elena: "Yn ystod wythnosau olaf ei fywyd roedd e'n dioddef o flinder. Fe wnaeth ei ymddygiad newid a doedd e ddim wedi cysgu ers pythefnos."
Clywodd y cwest yng Nghaerdydd fod Martin wedi siarad yn agored am ei iselder gyda'i wraig y noson cyn iddo farw a'i bod wedi cymryd rhai oriau i'w dawelu cyn mynd i'r gwely.
Fe ddywedodd wrthi hefyd ei fod wedi bod yn dioddef o iselder ers pedair blynedd.
Yn y datganiad ysgrifenedig ychwanegodd ei wraig: "Ar Fehefin y 20fed fe ddeffrais am 6 ac wrth i fi ddod lawr grisiau doedd Martin ddim yno. Dwin cofio cael teimlad y dylwn edrych yn y garej."
Ar ddiwedd y cwest ddydd Mawrth cofnododd y crwner Philip Spinney rheithfarn o hunanladdiad.
Gyrfa lwyddiannus
Yn wreiddiol o Bontiets yn Sir Gaerfyrddin, roedd Dr Martin Rhisiart yn Athro ym maes strategaeth ac arloesedd ym Mhrifysgol De Cymru a chyn hynny yn economegydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Roedd e'n wyneb ac yn llais cyfarwydd i gynulleidfa Newyddion S4C a Radio Cymru a bu'n cynghori llywodraeth San Steffan ar faterion economaidd.
Roedd Dr Rhisiart hefyd yn aelod o Gyngor Cynghorol Cymru i Lywodraeth Cymru ac fe luniodd ymchwil arloesol i Gomisiwn Cyflogaeth y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2017
