Galw am gosbi byrddau iechyd am ymateb yn araf i gwynion
- Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y gallai cleifion "golli hyder" yn y Gwasanaeth Iechyd
Dylai byrddau iechyd gael eu cosbi os ydyn nhw'n araf yn ymateb i gwynion, yn ôl y Ceidwadwyr.
O'r 6,000 o gwynion swyddogol yn 2016-17, fe fethodd y byrddau â delio â 41% ohonyn nhw o fewn y nod o 30 diwrnod.
Yn ardal Cwm Taf, mae'r ffigwr hwnnw'n codi i 75%.
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns, y gallai cleifion "golli hyder yn y system".
Ond dywedodd Cwm Taf eu bod wedi gwneud gwelliannau, gyda Llywodraeth Cymru'n dweud bod 'na lefel "hynod uchel" o foddhad gyda'r Gwasanaeth Iechyd.

Nifer y cwynion heb gael ymateb o fewn 30 diwrnod
Y gwaethaf: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf - 75%; Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - 67%.
Y gorau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 24%.

Daw'r ffigyrau o lythyr gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, yn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan yr AC Janet Finch-Saunders.
Cafodd y cwynion dan sylw eu gyrru'n uniongyrchol i fyrddau iechyd, wnaeth ddelio â nhw fel rhan o broses Gweithio i Wella.
'Angen deddfwriaeth eglur'
Dywedodd Angela Burns, bod yr ymateb i "lawer gormod o gwynion" yn rhy araf.
"Rydyn ni angen deddfwriaeth eglur ac annhoradwy fel bod cleifion yn gallu disgwyl bod eu pryderon yn cael ymateb o fewn cyfnod statudol, neu mae risg bod defnyddwyr gwasanaethau yn colli pob hyder yn y system."

Mae Angela Burns yn AC dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "disgwyl i fyrddau iechyd ymchwilio [i gwynion] yn drylwyr ac mewn ffordd amserol."
Ond ychwanegodd bod lefel "hynod uchel" o foddhad gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
'Nifer o welliannau'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf eu bod yn "yn ceisio delio â phob pryder mewn ffordd agored a gonest."
"Mae nifer o welliannau wedi eu gwneud yn y 18 mis diwethaf o ran rheoli pryderon o fewn y bwrdd iechyd", meddai'r bwrdd mewn datganiad.
"Mae rhaglen hyfforddi ar gyfer timau rheng flaen wedi galluogi staff i reoli pryderon lle bynnag a phryd bynnag maen nhw'n codi i gael ymateb prydlon".
Ychwanegodd: "Does gan y bwrdd iechyd ddim cwynion ar hyn o bryd sydd wedi bod ar agor ers mwy na chwe mis."