Caerdydd yn rhoi'r gorau i'w chais dinas diwylliant Ewrop
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen gyda'i chais i fod yn ddinas diwylliant Ewropeaidd 2023.
Dinas ym Mhrydain fydd yn cael eu dewis ar gyfer y flwyddyn honno ac roedd grwpiau celfyddydol a diwylliannol wedi bod yn annog Caerdydd i gystadlu am y teitl.
Ond er bod y cyngor wedi trafod y syniad, doedd dim digon o amser i gwblhau'r cais cyn y dyddiad cau ym mis Hydref.
Mae'r teitl yn dod a hwb economaidd ac yn denu digwyddiadau celfyddydol mawr.
Mae Leeds, Dundee a Milton Keynes yn barod wedi datgan diddordeb mewn gwneud ceisiadau.

Mae Abertawe ymhlith pump o ddinasoedd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU
Lerpwl a Glasgow yw rhai o'r dinasoedd sydd wedi cael y teitl yn y gorffennol.
Mae'n gystadleuaeth wahanol i Ddinas Diwylliant y DU ac mae Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth honno ar gyfer 2021.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod y penderfyniad wedi ei wneud gan nad "dyma'r amser cywir" i wneud cais i fod yn ddinas diwylliant Ewropeaidd 2023, a hynny ar ôl iddynt drafod gyda'r sector greadigol.
"Fodd bynnag cafodd nifer o syniadau a phrosiectau eu trafod sydd yn dechrau dwyn ffrwyth mewn partneriaeth gyda'r sector greadigol a'r celfyddydau.
"Rydyn ni yn edrych ar ffyrdd newydd i wella a datblygu enw da Caerdydd a'r ardal ehangach fel un o'r lleoliadau diwylliannol mwyaf blaenllaw ym Mhrydain."