Carcharu dyn 23 oed am ymosodiad yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar y Maes yng Nghaernarfon ar 17 Rhagfyr 2016
Mae dyn wedi cael ei garcharu yn dilyn ymosodiad "ciaidd" yng nghanol tref Caernarfon.
Fe gafodd tystiolaeth fideo CCTV ei ddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun yn dangos Dion Lloyd Gordon Jones yn rhedeg o gwmpas y lle yn "chwilio am drafferth" ar y noson dan sylw.
Roedd Jones, 23 oed, o Gwen y Llan, Caernarfon, ar fin mynd ar brawf am glwyfo dyn arall, ond fe gyfaddefodd i gyhuddiad o ymosodiad gan achosi niwed corfforol cyn i'r achos ddechrau, a chafodd ei garcharu am 21 mis.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry fod pobl Caernarfon "wedi cael digon" ar achosion parhaus o drais ar y stryd yn difetha eu tref.
Fe ddaeth i'r amlwg yn y llys fod gan Jones euogfarnau blaenorol am golli ei dymer tra'i fod dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.
Dywedodd y barnwr fod ganddo 14 o euogfarnau am droseddau tebyg er mai dim ond 23 oed oedd o.
Dioddefwyr yn anymwybodol
Clywodd y llys fod Jones wedi mynd ati ar Faes Caernarfon yn ystod oriau mân 17 Rhagfyr y llynedd i daro'r dioddefwr, Jonathan Adrian Cyster, yn anymwybodol.
Roedd Mr Cyster wedi dioddef anaf difrifol i'w benglog, ac wedi torri ei ên mewn dau le.
Fe gyfaddefodd Jones ei fod dan ddylanwad alcohol a chocên ar y pryd.
Nid yw Mr Cyster yn cofio beth ddigwyddodd, gan ei fod wedi mynd yn "anymwybodol am tua 20 eiliad,"meddai.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd lle'r oedd pryder y gallai fod wedi dioddef gwaedlif ar yr ymennydd, er i brofion wedyn ddangos nad oedd hynny wedi digwydd.
Fe wellodd o'i anafiadau, ond dri mis yn ddiweddarach roedd yn dal i gael poen, ac yn dioddef o straen, gan ei orfodi i symud i ffwrdd i fyw at ei fam.
Fe gyflwynodd y Barnwr Parry orchymyn atal pum mlynedd yn rhwystro Jones rhag cysylltu â'r dioddefwr mewn unrhyw fodd.