Y Parchedig Huw Jones, Y Bala wedi marw yn 97 oed
- Cyhoeddwyd

Yn 97 oed, bu farw'r awdur a'r diddanwr amryddawn, Y Parchedig Huw Jones, Y Bala.
Bu'n weinidog yn Y Drenewydd, Penygroes a'r Bala ac roedd yn aelod o griw gwreiddiol y Noson Lawen gyda Dr Meredydd Evans.
Bu'n olygydd cylchgrawn Plaid Cymru, Y Ddraig Goch, ac yn ymgyrchydd i'r blaid drwy gydol ei oes.
Ef oedd awdur y cyfrolau Cydymaith Byd Amaeth.
'Byrlymu o hiwmor'
Roedd hefyd yn wyneb cyfarwydd am ddegawdau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n arwain o'r llwyfan dros gyfnod o 25 mlynedd.
Un oedd yn ei adnabod yn dda yw cyflwynydd Byd Amaeth Radio Cymru, y darlledwr Dei Tomos. Dywedodd Mr Tomos fod ganddo le i ddiolch Mr Jones, a'i fod yn ei "edmygu'n fawr" fel arweinydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Dyn bychan oedd o, ond roedd yn berson bywiog ac effeithiol oedd yn byrlymu o hiwmor," meddai.
Ychwanegodd: "Mae gennyf le i ddiolch iddo am gyhoeddi pedair cyfrol Cydymaith Byd Amaeth - byddai'n aml yn troi atyn nhw wrth baratoi rhaglenni.
"Roedd hi wastad yn bleser mynd i recordio sgwrs gyda Huw. Roeddwn yn lwcus i wneud hynny ar sawl achlysur.
"Cyn mynd i'r weinidogaeth roedd yn was fferm. Dwi'n cofio'n iawn ei fod wedi gorfod cysgu mewn llofft stabl yn ystod y cyfnod yma. Nid llawer fysa'n gallu dweud hynny heddiw," meddai.

Y Parchedig Huw Jones yn ei gyfarfod sefydlu yng Nghapel Tegid Y Bala 1962
Ar raglen y Post Prynhawn ar Radio Cymru dywedodd y Parchedig Harri Parri y byddai'n cofio amdano gyda "anwyldeb a rhyfeddod."
"Dyddiau'r Noson Lawen wnaeth o'n enw. Mi oedd yn llwyddiannus ymhob rhan o waith gweinidog ac mi oedd yn ymgyrchydd gwleidyddol dewr," meddai.
"Er yr hiwmor, mi oedd yn ddyn diwyd ei sgwrs dan yr wyneb ac yn berson hynod ddiymhongar."