Cyn-bennaeth cartref yn gwadu troseddau rhyw
- Cyhoeddwyd

Ymddangosodd Bryan Davies yn Llys Ynadon Llandudno ym mis Awst
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, mae cyn-bennaeth cartref gofal yn Llangollen wedi gwadu cyfres o droseddau rhyw yn erbyn 11 o blant.
Fe blediodd Bryan Davies, sy'n 70 oed, yn ddieuog i 38 cyhuddiad yn y gwrandawiad a barodd awr.
Cafodd ei arestio ym Malta fel rhan o ymchwiliad Pallial i honiadau o gam-drin rhyw hanesyddol.
Yn ychwanegol i gyhuddiadau o ymosod yn anweddus ac ymosodiadau rhyw difrifol, mae'r diffynnydd yn cael ei gyhuddo o chwe chyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant yn Sussex rhwng 2007 a 2013 a thri chyhuddiad o annog gweithgaredd rhywiol ar y we rhwng 2011 a 2012.
Cafodd ei arestio o dan warant Ewropeaidd ddechrau Awst ar ynys Gozo ger Malta. Roedd e wedi ymddeol i fyw ar yr ynys.
Cytunodd y Barnwr Rhys Rowlands i'w ryddhau ar fechnïaeth tan yr achos wedi iddi ddod i'r amlwg ei fod wedi ildio ei basport.
Cafodd orchymyn i beidio gwneud cais am ddogfennau teithio pellach, i fynd i swyddfa'r heddlu yn Reigate yn Surrey dair gwaith yr wythnos ac i ufuddhau i gyrffyw nosweithiol.
Bydd achos, a ddisgwylir i bara am bum wythnos, yn dechrau ym mis Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2017

- Cyhoeddwyd2 Awst 2017
