Pro14: Leinster 37-9 Gleision
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gleision wedi colli am yr ail waith yn Adran A y Pro14 yn dilyn ceisiau hwyr i Leinster yn yr RDS Arena.
Y tîm cartref ddechreuodd gryfaf, gan ddod yn agos at linell gais y Gleision, ac fe fydden nhw wedi mynd ar y blaen pe na bai Ross Byrne wedi methu gyda chib gosb gynnar.
Llwyddodd Steven Shingler gyda'i ymgais gyntaf yntau, cyn ychwanegu un arall yn ystod cyfnod Isa Nacewa yn y gell gosb am dacl uchel ar Alex Cuthbert i roi'r Gleision 6-0 ar y blaen.
Ond roedd gan Leinster fantais o bum pwynt erbyn yr egwyl, gyda chais James Tracy yn cael ei roi gan y dyfarnwr teledu cyn i Byrne ychwanegu trosiad a chic gosb.
Daeth tri phwynt arall o droed Shingler ar ddechrau'r ail hanner, cyn i Byrne ymestyn y fantais i saith pwynt gyda dwy gic gosb, un ohonynt yn taro'r ddau bostyn ar y ffordd drosodd.
Sicrhawyd y fuddugoliaeth gyda cheisiau gan Sean Cronin, Barry Daly a Nick McCarthy, gyda Byrne yn llwyddo gyda'r tri throsiad.