Y tegan cyntaf 'i ganu yn y Gymraeg'
Mae'n debyg fod tegan newydd sy'n canu'n Gymraeg - y cyntaf o'i fath - yn profi'n hynod boblogaidd, a hynny cyn iddo gyrraedd y siopau hyd yn oed.
Mae pobl o bob cwr o'r byd wedi bod yn blaen-archebu'r "Seren Swynol", a hynny diolch i deulu ifanc o Fôn a welodd yr angen am y math yma o degan.
Cafodd y syniad ei ddatblygu gan Awena a Baron Walkden, oedd eisiau tegan i'w merch Cari, ac mae bellach yn un sydd wedi denu sylw yn fyd eang.