Glasgow 31-10 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Alex Dunbar ddwywaith i Glasgow wrth i'r Gweilch adael y ddinas yn waglaw
Colli yn Glasgow oedd hanes y Gweilch yn eu hail gêm yn Adran A y Pro 14.
Adeiladodd Glasgow fantais glir yn yr 20 munud cyntaf gyda chais Alex Dunbar a throsiad a chic gosb Finn Russell.
Ond tarodd y Gweilch yn ôl yn fuan wedyn gyda chais Dan Evans a throsiad Sam Davies, cyn i Davies ei gwneud hi'n 10-10 gyda chic ola'r hanner cyntaf.
Er hynny, ailsefydlu eu mantais wnaeth Glasgow yn yr ail gyfnod, gyda cheisiadau i Leo Sarto, Adam Ashe a Dunbar yn rhoi buddugoliaeth gyfforddus i'r tîm o'r Alban.