Fydd 'na brinder hufen a menyn erbyn dechrau 2018?

Mae 'na bryder o fewn y diwydiant bwyd am brinder posib o fenyn a hufen wedi i brisiau bron â dyblu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd un cwmni cacennau o Lanrwst y byddan nhw'n gorfod ystyried newid eu ryseitiau yn y flwyddyn newydd i gynnwys margarin.