Buddsoddiad rhyngrwyd 'yn newyddion da' i fusnesau
Mae buddsoddiad pellach mewn band eang sydyn iawn yn "newyddion da" i fusnesau cefn gwlad, yn ôl gweinidog yn Swyddfa Cymru.
Roedd Guto Bebb AS yn siarad wedi i Lywodraeth y DU gyhoeddi y bydd hyd at £56m ar gael i ehangu'r ddarpariaeth yng Nghymru.