Adran Dau: Casnewydd 1-0 Cheltenham
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth dechrau addawol Casnewydd i'r tymor barhau nos Fawrth wrth iddyn nhw ennill gêm agos yn erbyn Cheltenham yn Rodney Parade.
Daeth unig gôl y gêm wedi 35 munud wrth i Padraig Amond rwydo'n hawdd i'r tîm cartref yn dilyn ergyd Ben White.
Bu bron i Cheltenham ddod yn gyfartal, ond i amddiffyn Casnewydd atal peniad Kyle Storer rhag croesi'r llinell gôl.
Mae'r canlyniad yn gweld y tîm o dde Cymru yn codi i'r chweched safle yn Adran Dau.