Llofruddiaeth Y Rhyl: Cadw dyn yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Llys Aderyn Du, Rhyl, nos Sadwrn 9 Medi
Mae dyn 21 oed o'r Rhyl sydd wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth wedi'i gadw yn y ddalfa yn dilyn ymddangosiad yn Llys y Goron y Wyddgrug fore Mawrth.
Mae Redvers James Bickley wedi ei gyhuddo o lofruddio Tyler Denton, 25 oed, a cheisio llofruddio dyn a dwy ddynes o'r Rhyl.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i Llys Aderyn Du yn y Rhyl nos Sadwrn 9 Medi i adroddiadau o drywanu honedig.
Bu'n rhaid i'r tri arall, Paul, Cody a Shannen Denton, gael triniaeth ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Bu farw Tyler Denton o'i hanafiadau
Wnaeth Mr Bickley ddim cyflwyno ple ac mae gwrandawiad arall wedi ei drefnu ar gyfer 30 Hydref.
Fe wnaeth y barnwr Rhys Rowlands osod dyddiad answyddogol ar gyfer yr achos ym mis Mawrth 2018.
Mae disgwyl i'r achos bara rhwng pump a saith niwrnod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017

- Cyhoeddwyd13 Medi 2017
