Siop sglodion orau Cymru
- Cyhoeddwyd

Siop sglodion 'Penaluna's Famous Fish & Chips' yn Hirwaun, Rhondda Cynon Taf sydd wedi'i henwi fel siop sglodion orau Cymru
Mae'n debyg nad oes angen bod yn agos at y môr i fwynhau pysgod a sglodion gorau Cymru.
Penaluna's Famous Fish and Chips yn Hirwaun, Rhondda Cynon Taf sydd wedi ennill gwobr Cymru yng Ngwobrau Pysgod a Sglodion Prydain eleni.
Yn ogystal â blasu safon y cynnyrch roedd y beirnaid cudd yn rhoi marciau hefyd am safon y gwasanaeth.
Dywedodd perchennog y siop, Lee Penaluna: "Ni'n hynod gyffrous i fod yn y deg uchaf - siop fach y'n ni ac felly mae derbyn cydnabyddiaeth ar raddfa genedlaethol fel hyn yn anghredadwy.
"Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth wedi gwneud byd o les i'r siop. Mae'n herio'r ffordd chi'n ymdopi â'r busnes ac yn eich gyrru i wella mwy na fyddech chi'n medru dychmygu. Ers i ni gymryd rhan yn y gystadleuaeth mae'n gwerthiant wedi codi deirgwaith felly mae'r buddion yn amlwg.
"Os enillwn ni'r wobr Brydeinig... ni 'di addo parti mawr i'r staff i ddathlu!"
Bydd Penaluna's Famous Fish and Chips yn clywed canlyniad y gystadleuaeth honno yn Llundain ar 25 Ionawr.

Staff y siop yn amlwg yn edrych ymlaen at eu parti
Ydych chi'n cytuno taw Penaluna's Famous Fish and Chips yw'r siop sglodion orau yng Nghymru...neu ydych un lleol chi yn well?