Pro14: Dreigiau 21-8 Connacht
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y Dreigiau lwyddo i ennill eu gem gyntaf dan reolaeth Bernard Jackman gyda buddugoliaeth gyfforddus o 21-8 yn erbyn Connacht.
Fe wnaeth Hallam Amos a Elliot Dee groesi i'r tîm cartref yn yr hanner cyntaf ac fe wnaeth Gavin Henson gicio 11 pwynt i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Yn ystod y gêm roedd yn rhaid i'r Dreigiau ddod ag eilyddion ymlaen yn dilyn anafiadau i Zane Kirchner and Tyler Morgan.
Fe wnaeth Connacht frwydro nôl yn yr ail hanner gyda Quinn Roux yn sgorio cais gysur i'r ymwelwyr.