'Dewch â'r Cynulliad i'r gogledd' medd AS Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Albert Owen

Dylai Aelodau Cynulliad ystyried cynnal sesiynau am nifer o ddyddiau'r flwyddyn yng ngogledd Cymru, yn ôl un AS Llafur.

Roedd Albert Owen yn siarad 20 mlynedd wedi'r refferendwm yn 1997 arweiniodd at sefydlu'r Cynulliad.

Dywedodd AS Ynys Môn bod gan y sefydliad dipyn o waith i wneud i argyhoeddi pobl yn y gogledd ei fod ar gyfer Cymru gyfan.

Bydd y Cynulliad yn dychwelyd i Fae Caerdydd ddydd Mawrth wedi egwyl yr haf.

Yn nyddiau cynnar datganoli, roedd aelodau yn eistedd ar bwyllgorau rhanbarthol, ond dywedodd Mr Owen nad oedd llawer o ddiddordeb yn y rheiny ymysg aelodau.

'Llais ein hunain'

Wrth siarad gyda BBC Cymru dywedodd Mr Owen: "Mae pobl wedi dod i delerau â datganoli. Er y byddan nhw'n cwyno ei fod wedi'i leoli yn ne Cymru, maen nhw'n dal i deimlo fod o'n beth da i Gymru fod gennym ein llais ein hunain.

"Ond rwy'n credu fod llawer o ffordd i fynd i argyhoeddi pobl yng ngogledd Cymru bod y Cynulliad yn rhywbeth i Gymru gyfan. Mae hynny'n mynd i gymryd amser.

"Pe byddwn i'n AC yng ngogledd orllewin Cymru fe fyddwn i'n dweud y dylai'r Cynulliad eistedd yn y gogledd cwpwl o weithiau bob blwyddyn, i ddangos ei fod yn gofidio, i drafod materion gogledd Cymru.

"Gyda datganoli, mae'n fater o ddod â gwleidyddiaeth yn agosach at y bobl. Mae Caerdydd mor bell o Ynys Môn ag yw Llundain."

Ychwanegodd Mr Owen fod teimlad fod "trafnidiaeth yn y gogledd yn dod yn ôl ar yr agenda", ond nad oedd hynny'n ddigon.

"Mae'n fwy na dim ond y ffyrdd. Gallai Ewrop roi arian ar gyfer ffyrdd, a gallai llywodraeth y DU ddarparu ffyrdd, isadeiledd a swyddi.

"Mewn gwirionedd pan ydyn ni'n sôn am wleidyddiaeth yn bod yn rhan o ardal, a'r ardal yn rhan o wleidyddiaeth genedlaethol, yna rwy'n credu bod angen i wleidyddiaeth fod yn agosach atyn nhw."