Y beicwyr sy'n achub bywyd
- Cyhoeddwyd

Ydych chi wedi sylwi ar Feiciau Gwaed ar lonydd Cymru'n ddiweddar? Dyma'r gwasanaeth cyntaf o'i fath drwy'r wlad sy'n cludo gwaed, samplau a llaeth y fron o un ysbyty i'r llall y tu allan i'r oriau arferol.
Mae'n fenter wirfoddol sydd ar gael yn rhad ac am ddim i'r Gwasanaeth Iechyd.
Mae hefyd yn fodd cyflymach o fynd â'r cyflenwadau o un lle i'r llall.
Yn frwd am ei feic modur, mae'r gyrrwr Karl James yn gwirfoddoli i'r gwasanaeth o'r cychwyn.
190,000 o filltiroedd
"Mae'n siawns i wneud rhywbeth i elusen a'r gymuned a chyfuno fy niddordeb, sef reidio beic," meddai.
"Mae pob gyrrwr angen trwydded advanced a wedyn mae 'na hyfforddiant i fedru delio â'r cynnyrch gwaed.
"Os mae 'na draffig neu waith ar y ffordd, 'da ni'n gallu mynd drwyddo fo'n gynt. Does ganddon ni ddim golau glas, ond mae pobl yn symud pan maen nhw'n gweld ni."
Mae'n wasanaeth prysur, y llynedd fe gafodd y Beiciau Gwaed dros 2,200 o alwadau drwy Gymru, gyda'r beicwyr yn teithio bron i 190,000 o filltiroedd.

Mae 'na tua 320 o wirfoddolwyr ar hyn o bryd
Er llwyddiant y gwasanaeth hyd yma, maen nhw'n brin o wirfoddolwyr - nid yn unig y gyrwyr beic modur, ond maen nhw hefyd yn chwilio am fwy o bobl i ddelio â'r galwadau ffôn a chodi arian.
Un arall sy'n rhoi ei hamser hamdden i helpu ydy Barbara Burchell, sy'n rheoli'r galwadau ac yn anfon y gyrwyr ar eu hynt.
Dywedodd Ms Burchell: "Da ni bob amser yn chwilio am fwy o bobl i helpu. 'Da ni eisiau pobl sy'n gallu reidio beic modur, pobl sy'n fodlon bod ar y ffôn neu godi arian i'r elusen.
"Mae'r beics i gyd yn cael eu rhoi i ni, 'da ni ddim yn gorfod prynu'r rheiny. Ond mae ganddon ni 16 beic ar hyn o bryd ac mae'n costio tua £3,500 i gadw pob beic ar y ffordd pob blwyddyn.
"Dwi'n meddwl am bob £1 'da ni'n codi, mae'n arbed £5 i'r gwasanaeth iechyd. Mae'n arbed nhw i logi tacsis i gludo'r gwaed gan bod ni'n gwneud hynny'n rhad ac am ddim."
"'Dwi 'di penderfynu 'mod i eisiau helpu 'chydig bach mwy felly 'dwi am ddysgu reidio beic fy hun. 'Dwi erioed wedi bod ar gefn beic o'r blaen ond 'dwi am fynd amdani!"