Targedu gyrwyr sydd ar eu ffôn symudol
- Cyhoeddwyd

Bydd ymgyrch arbennig i dargedu gyrwyr sy'n defnyddio eu ffonau symudol tra eu bod nhw wrth lyw'r cerbyd yn dechrau ddydd Llun.
Yn ôl Heddlu'r Gogledd, sy'n cyd-lynu'r ymgyrch, cafodd 199 o yrwyr eu stopio yn ystod mis Tachwedd 2016 am eu bod nhw'n torri'r gyfraith.
Ers 1 Mawrth eleni mae unrhyw un sy'n cael eu dal yn torri'r gyfraith yn wynebu lleiafswm o £200 o ddirwy a 6 pwynt ar eu trwydded. Gallai'r gosb honno gynyddu i £1,000 os ydy'r achos yn mynd i'r llys.
Edrych ar gyfryngau cymdeithasol
Dywedodd yr Arolygydd David Cust o Uned Plismona'r Ffyrdd, Heddlu'r Gogledd, "Mae defnyddio eich ffôn symudol tra'n gyrru yn debygol o dynnu eich sylw a gallai hynny arwain at ddamwain ar y ffordd.
"Mae nifer gynyddol o yrwyr yn dewis defnyddio eu ffonau symudol tra'n gyrru i ffonio, anfon neges destun neu edrych ar y cyfryngau cymdeithasol hyd yn oed.
"Mae gyrru tra'n defnyddio ffôn symudol yn erbyn y gyfraith. Mae'r neges yn glir, peidiwch â mentro."