Chwe blynedd o garchar i ddyn am frathu ael i ffwrdd
- Cyhoeddwyd

Cafodd Simon Andrew Morris ei garcharu am chwe blynedd
Mae dyn o Brestatyn wedi ei garcharu am chwe blynedd ar ôl ymosod ar ddyn arall mewn tafarn a brathu ei ael cyn ei boeri allan.
Dywedodd Aled Wyn Jones ei fod wedi teimlo ei ael yn cael ei rwygo i ffwrdd yn yr ymosodiad yn The Cross Foxes ym Mhrestatyn.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty ble llwyddodd meddygon i'w bwytho yn ôl, ond ers hynny mae wedi dod yn rhydd eto ac mae Mr Jones yn wynebu triniaeth bellach.
Fe gyfaddefodd Simon Andrew Morris i achosi anaf, ac fe'i cafwyd yn euog hefyd o gyhuddiad yr oedd wedi ei wadu, sef anafu gyda'r bwriad o achosi anaf corfforol difrifol.
'Poen arteithiol'
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Mr Jones, sydd wedi dioddef o iselder, wedi cael craith yn dilyn yr ymosodiad, nad oedd eisiau cymdeithasu bellach a'i fod wedi penderfynu gadael yr ardal.
Roedd wedi bod ar noson allan gyda'i ffrindiau yn gwylio band yn chwarae pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Fe welodd y rheithgor ddelweddau camerâu cylch cyfyng o'r ymosodiad, a hynny wedi i Morris fod yn yfed.
Dywedodd Morris, 31, nad oedd ganddo unrhyw gof o ymddwyn yn wyllt y noson honno, a'i fod wedi cerdded adref wedi'r digwyddiad.
Yn ôl yr erlynydd James Coutts, roedd yr ymosodiad ar 9 Rhagfyr y llynedd yn un direswm, a doedd Aled Wyn Jones ddim yn adnabod y diffynnydd.
Dywedodd Mr Jones yn ei dystiolaeth ei fod yn "cofio... teimlo fy ael yn dod i ffwrdd yn ei geg" a bod "y boen yn arteithiol".
Wrth ddedfrydu Morris, dywedodd y barnwr Rhys Rowlands: "Dwi ddim yn amau o gwbl eich bod chi'n difaru'n enbyd beth wnaethoch chi.
Ychwanegodd: "Ar ôl yfed fe golloch chi eich tymer ac ymosod ar ddyn diniwed, rhywbeth sydd yn anffodus yn digwydd rhy aml y dyddiau hyn."