Arweinwyr cyngor 'yn cefnogi' streiciau sector cyhoeddus
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr Llafur y tri chyngor mwyaf yng Nghymru wedi dweud y bydden nhw'n cefnogi streiciau dros y cap ar gyflogau sector cyhoeddus.
Dywedodd Huw Thomas, Andrew Morgan a Rob Stewart o gynghorau Caerdydd, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe y byddai gan eu staff gyfiawnhad dros weithredu, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth y DU i godi cyflogau.
Mae'r cap ar gyflogau sector cyhoeddus eisoes wedi'i godi'n rhannol, gyda swyddogion heddlu yn cael cynnydd o 1% a bonws o 1%, a swyddogion carchardai yn cael 1.7% - gyda'r cynnydd yn dod o gyllidebau presennol.
Gallai Llywodraeth Cymru gynyddu cyflogau ar gyfer gwasanaethau sydd dan eu rheolaeth nhw, fel addysg ac iechyd, ond maen nhw wedi gwrthod gwneud hynny oni bai eu bod yn cael rhagor o gyllid o San Steffan.
'Haeddu tâl teg'
Cafodd cyflogau sector cyhoeddus eu rhewi am ddwy flynedd yn 2010, oni bai am bobl oedd yn ennill llai na £21,000.
Ers 2013 mae'r cynnydd wedi cael ei gyfyngu i 1%, sy'n is na chyfradd chwyddiant.
Wrth siarad yng nghynhadledd Llafur yn Brighton, dywedodd Rob Stewart bod rhewi cyflogau pobl am saith mlynedd yn "warthus".
"Mae pobl yn haeddu cael eu talu'n deg. Rydyn ni wedi dweud hynny ers blynyddoedd," meddai.
"Dylai pobl gael pob hawl i fynnu cyflog teg am y gwaith maen nhw'n ei wneud, ac os nad ydyn nhw'n ei gael, fe ddylen nhw allu protestio."

Dywedodd Rob Stewart fod pobl yn haeddu cael eu "talu'n deg"
Dywedodd Huw Thomas: "Fe fydden i'n cefnogi eu hachos os nad yw Llywodraeth y DU yn talu'r arian hwnnw."
Ychwanegodd Andrew Morgan mai'r "flaenoriaeth ddylai fod ceisio osgoi streic, ond dyw'r llywodraeth ddim yn gweld gwerth y gweithwyr sector cyhoeddus ac maen nhw'n gwrthod ariannu diddymiad y cap tâl".
Cyfreithlon?
Yn gynharach y mis yma fe ddywedodd un o'r prif undebau llafur yng Nghymru, y GMB, ei bod hi bron yn anochel y byddai gweithredu diwydiannol yn digwydd dros dâl.
Ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi eu bod yn codi'r cap tâl yn rhannol, mae Plaid Cymru wedi annog y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd i godi'r cap ar gyfer y gwasanaethau sydd dan eu rheolaeth nhw.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth raglen Good Morning Wales o'r gynhadledd: "Fe allai deall dicter pobl eu bod nhw'n teimlo nad yw eu sgiliau'n cael eu cydnabod ac nad ydyn nhw wedi cael y codiad cyflog mae eraill wedi ei dderbyn.
"Os yw Llywodraeth y DU yn rhoi'r arian ar y bwrdd i godi'r cap tâl, rydyn ni wedi dweud y bydden ni'n ei ddiddymu yng Nghymru.
"Heb yr arian mae'n anodd iawn i ni - mae'n golygu y byddai'n rhaid i arian ddod o wasanaethau."

Mae nyrsys ymysg y rheiny sydd wedi ymgyrchu dros ddiddymu'r cap ar dâl
Yn y cyfamser mae rhywfaint o ddryswch dros a fydd deddfwriaeth newydd Cymreig i undebau llafur, sy'n lleihau cyfyngiadau ar streicio, yn weithredol petai pleidlais dros y DU gyfan ar weithredu diwydiannol.
Yn Lloegr mae angen denu cefnogaeth o leiaf 40% o'r rheiny sy'n pleidleisio dros streic cyn iddi fod yn gyfreithlon.
Yn ôl Deddf Undebau Llafur (Cymru) dyw'r rheolau yna ddim yn berthnasol i feysydd datganoledig fel addysg ac iechyd.
Dywedodd cyfreithwyr ar ran y GMB eu bod yn ceisio datrys a fyddai'r gyfraith Gymreig mewn grym petai pleidlais yn cael ei chynnal ar gyfer Cymru a Lloegr, fel mae Llywodraeth Cymru yn ei gredu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017
