Theatrau ag 'agwedd sydd ddim yn dderbyniol'

Mae angen i Gyngor y Celfyddydau gynnal adolygiad o sut mae'r iaith Gymraeg yn cael ei gefnogi yn y byd theatr yng Nghymru, yn ôl un sy'n gweithio yn y maes.

Yn ôl cadeirydd Pwyllgor Cymru Undeb Awduron Prydain, Manon Eames, dylai'r adolygiad gael ei gynnal er mwyn edrych ar y "diffyg darpariaeth Gymraeg i sgriptwyr a dramodwyr y wlad" a'r diffyg cyfleoedd i dalent o fewn Cymru.

Daw ei sylwadau ar ôl i berson di-gymraeg o Loegr gael ei benodi'n Gyfarwyddwr Cyswllt newydd Theatr Sherman a phryderon hefyd nad yw Theatr Clwyd yn cynnig digon o gynyrchiadau yn y Gymraeg.