Cymru yw 'Bae Botany yr 21ain ganrif', medd ymgyrchwyr
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yn poeni fod Cymru'n "brysur ddod yn Fae Botany yr 21ain ganrif" gyda charcharorion o Loegr yn cael eu symud i garchardai dros y ffin.
Fe wnaeth Frances Crook, prif weithredwr Cynghrair Howard, y sylwadau ymhlith dadleuon yn erbyn cynlluniau ar gyfer carchar newydd ym Maglan, ger Port Talbot.
Roedd Bae Botany yn ardal o Awstralia ble roedd troseddwyr o Brydain yn cael eu hanfon yn y 18fed ganrif.
Mae gwleidyddion Llafur lleol am i'r carchar gael ei adeiladu yn Abertawe, tra bod Plaid Cymru yn dweud na ddylid ei adeiladu o gwbl.
Dywedodd Ms Crook ar Twitter: "Gyda phum carchar eisoes yng Nghymru, mae'n edrych fel y bydd Lloegr yn gyrru pobl ei threfi tlawd i Gymru wledig.
"Os oes gan y llywodraeth £100m o'r goeden arian hud, dylid ei wario ar leihau troseddu, nid ar garchar mawr ar gyfer pobl dlawd Lloegr.
"Mae Cymru'n prysur ddod yn Fae Botany yr 21ain ganrif. Mae Lloegr yn gwasgaru ei phobl dlawd, ac yn eu gyrru i Gymru."
'Agored i awgrymiadau'
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod angen carchardai newydd yng Nghymru i gymryd lle'r rhai presennol, sy'n dangos eu hoed.
Yn siarad yn sesiwn Holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth bod Cymru yn "ddyledus ers tro" i gael carchardai newydd, a bod rhai ohonynt o'r oes Fictoraidd.
"Rydyn ni'n gyrru carcharorion oddi yma," meddai.
"Dyw merched ddim yn gallu gwneud eu tymor yn y carchar yng Nghymru, does dim carchar categori A yng Nghymru ac mae gennym ni lawer gormod o garcharorion sydd ddim yn gallu gwneud eu cyfnod yn agosach at eu cymunedau, ac mae hynny'n bwysig o ran eu hadferiad."
Ychwanegodd Mr Jones y byddai'n "agored i awgrymiadau" am safleoedd eraill ar gyfer y carchar.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood y byddai'n well defnyddio'r tir ym Maglan fel rhan o gynllun trafnidiaeth newydd ar gyfer Bae Abertawe.
"Mae'r carchardai enfawr yma wedi'u dylunio ar gyfer anghenion cyfiawnder troseddol y wlad drws nesaf, nid ein gwlad ni," meddai.