Problemau 'amlwg' gyda chadw cofnodion mewn ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Gweithiwr yn cadw cofnodionFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arolygwyr wedi codi pryderon am y ffordd mae cofnodion yn cael eu cadw yn ysbytai Cymru

Mae problemau "amlwg" o ran cadw cofnodion a rheoli heintiau o fewn ysbytai Cymru, yn ôl adroddiad newydd.

Dywedodd arolygwyr fod angen gwelliannau "ar unwaith" i sicrhau bod cleifion, er enghraifft, ddim yn cael eu gadael heb fandiau adnabod.

Ond mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) hefyd yn nodi bod yr "arweinyddiaeth a'r rheolaeth yn gryf" ar y wardiau a'r byrddau rheoli.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i sefydliadau "weithredu'n sydyn" i fynd i'r afael â phroblemau.

'Heriau sylweddol iawn'

Cynhaliodd AGIC arolygiadau mewn 20 o ysbytai o fewn y saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn 2016-17.

Mae'r corff yn edrych i weld a yw ysbytai'n cyd-fynd â safonau gafodd eu gosod yn 2015.

Gan gydnabod bod byrddau iechyd yn wynebu "heriau sylweddol iawn", daeth AGIC i'r casgliad bod "problemau o ran rheoli meddyginiaethau, cadw cofnodion a rheoli heintiau yn amlwg o hyd".

line

Ymysg y problemau maen nhw'n eu codi mae:

  • Dim bandiau adnabod ar arddyrnau cleifion mewn tri arolygiad;

  • Diffyg gwaith archwilio i sut mae rheoli meddyginiaethau, ac enghreifftiau o storfeydd ac oergelloedd meddyginiaethau nad oedd dan glo;

  • Dealltwriaeth "amrywiol" mewn gwahanol ysbytai o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol a threfn diogelu rhag colli rhyddid.

line

Er hynny, mae'r adroddiad yn dweud bod "yr arweinyddiaeth a'r rheolaeth yn gryf ar lefel ward a lefel bwrdd gweithredol."

Yn ôl y ddogfen, dangosodd adrannau "ddealltwriaeth dda o'r hyn roedd hangen ei wneud yn wahanol neu'n well", yn ogystal ag "ymroddiad clir i ddysgu trwy gamgymeriadau".

Gweithiwr yn golchi dwyloFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er y pryderon, mae'r arolygwyr yn dweud bod nifer o gleifion yn cael "profiad cadarnhaol"

Dywedodd prif weithredwr AGIC bod "materion hirdymor" sy'n "tanseilio" safonau mewn ysbytai.

"Mae ein hadroddiad yn cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad staff sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru," meddai Dr Kate Chamberlain.

"Er bod gan lawer o gleifion brofiad cadarnhaol o ofal ysbyty'r GIG, mae angen mwy o waith i fynd i'r afael â nifer o faterion hirdymor sy'n tanseilio'r broses o ddarparu gofal diogel ac effeithiol."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu adroddiad AGIC" a'i fod yn dangos bod cleifion yn cael "gofal diogel ac effeithiol".

Ychwanegodd: "Er hynny, mae lle i wella, ac rydym yn disgwyl i sefydliadau'r GIG weithredu'n sydyn ac yn gadarn i fynd i'r afael â chasgliadau AGIC."