Rhys Ifans: 'Byth digon o gyfleon' i'r Gymraeg
Mae'r actor Rhys Ifans yn dweud bod "byth digon o gyfleon" i'r Gymraeg yn y byd theatr a ffilm.
"Cyn belled a bod yr iaith Gymraeg yn y cwestiwn, mwy a mwy a mwy os gwelwch yn dda," meddai.
Dywedodd hefyd bod angen mwy o fuddsoddiad yn y diwydiant creadigol.
Roedd yn siarad yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd lle cafodd 200 o ddisgyblion o wahanol ysgolion gyfle i glywed am ei yrfa a'i holi.
Yr elusen Into Film Cymru - sy'n cynnig cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau'r cyfrwng - oedd wedi trefnu'r digwyddiad.
Yn ôl yr actor adnabyddus mae ffilm fel cyfrwng yn "arf addysgiadol mor rymus am y rheswm fod yn rhywbeth sy'n cael ei wylio mewn grŵp, teulu neu ddosbarth".