Adran Dau: Crawley Town 1-2 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Mickey Demetriou ddwywaith gyda'i ben
Dwy gôl gan yr amddiffynnwr Mickey Demetriou sicrhaodd fuddugoliaeth i Gasnewydd yn Crawley.
Rhoddodd Mark Connolly'r fantais i'r tîm cartre' wedi hanner awr gyda pheniad.
Ond atebodd Demetriou gyda dau beniad ei hun - un cyn hanner amser a'r llall wedyn.
Mae Casnewydd yn seithfed yn Adran Dau, gyda Crawley yn disgyn i'r 19eg safle.