Cyngor y Fflint yn cefnogi cynnig i wrthod gwerthu'r Sun
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y Sun roi'r bai ar gefnogwyr Lerpwl am drychineb Hillsborough
Mae cynghorwyr Sir y Fflint wedi cefnogi cynnig i feirniadu papur newydd y Sun, yn ogystal â chefnogi unrhyw fanwerthwyr yn y sir sy'n dewis peidio â gwerthu'r papur.
Yn wreiddiol, roedd y cynghorwyr Bernie Attridge a Kevin Hughes wedi cynnig gwahardd pobl rhag dod â phapur newydd y Sun i adeiladau'r cyngor, ynghyd â gwahardd newyddiadurwyr y papur o adeiladau'r cyngor.
Roedden nhw wedi cyflwyno'r cynnig oherwydd ymateb y papur i drychineb Hillsborough 'nôl ym 1989, pan roddwyd y bai ar gefnogwyr Lerpwl am yr hyn ddigwyddodd.
Ond beirniadodd y Ceidwadwyr Cymreig y cynnig gwreiddiol, gan ddweud y byddai'r gwaharddiad yn "anghyfreithlon".

Yn y cynnig diwygiedig, bu cynghorwyr yn trafod "beirniadu ymddygiad papur newydd y Sun" a "chefnogi unrhyw fanwerthwr neu werthwr papurau newydd yn Sir y Fflint sy'n dewis peidio â gwerthu papur newydd y Sun".
Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor, Bernie Attridge: "Fedr y cyngor ddim anwybyddu'r loes a'r gofid achoswyd gan y celwyddau a'r anwireddau a gyhoeddwyd yn y Sun ar y pryd - yn enwedig i deuluoedd y 96.
"Fedrwn ni ddim chwaith ag anwybyddu gwrthodiad styfnig y Sun i ymddiheuro'n iawn am y loes a achoswyd tan iddi ddod yn amlwg i'r papur fod y cyhoedd yn mynnu'r fath ymddiheuriad."
Dewis
Serch hynny, cododd rhai cynghorwyr bryderon am y rhyddid i ddewis prynu'r papur.
Dywedodd y cynghorydd Rita Johnson: "Does dim rhaid i mi ei brynu. Dewis personol ydy o... mae'r gallu gan bobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain."
Dywedodd arweinydd y cyngor, Aaron Shotton fod y mater yn un emosiynol iawn. Ychwanegodd fod y cynnig yn ffordd o roi hyder i fanwerthwyr wneud y dewis i beidio â gwerthu'r papur os dyna'u dymuniad.
Pleidleisiodd 36 o gynghorwyr dros y cynnig, a chwech yn erbyn, gyda 18 yn ymatal.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn ystyried y gwaharddiad ddydd Mercher
Dywedodd un o Gymry blaenllaw Lerpwl, y Parchedig Dr D Ben Rees wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Mercher ei fod yn cefnogi'r alwad.
"Mae Sir y Fflint mor agos at Lannau Mersi ac mae cymaint o bobl yr ardal yn mynd yno i weithio o ddydd i ddydd, maen nhw'n uniaethu gyda ni," meddai.
"Mae'r Sun i ni yn Lerpwl yn bapur dydyn ni ddim am ei weld oherwydd ei fod wedi rhoi cymaint o enbydrwydd i bobl oedd yn gysylltiedig â Hillsborough.
"Dwi'n canmol y ddau gynghorydd am fod mor flaengar a sylweddoli ar y cysylltiad agos iawn sydd rhyngon ni a Sir y Fflint."

Dywedodd Dr D Ben Rees bod "cysylltiad agos iawn" rhwng Sir y Fflint a Glannau Mersi
Wrth ymateb i'r cynnig gwreiddiol, fe wnaeth llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar lywodraeth leol, Janet Finch-Saunders gyhuddo'r blaid Lafur - sy'n rhedeg y cyngor ar y cyd â chynghorwyr annibynnol - o geisio "sensro'r wasg".
Dywedodd cyn is-olygydd gwefan y Sun, Mark Webber, wrth y rhaglen ei fod hefyd yn cwestiynu cymhelliad y ddau gynghorydd.
Gofynnodd: "Ai mater am beth ddywedodd y papur yn y gorffennol am Hillsborough ydy hwn, neu ai pobl sydd o blaid Llafur sydd eisiau dinistrio'r Sun yn gyfan gwbl?
"Dwi'n deall bod lot o bobl yng Nghymru yn teimlo'r un fath â phobl Lerpwl am agwedd y papur yn yr 80au a'r 90au tuag at y ddinas a'r hyn ddigwyddodd, ond mae'r papur wedi ymddiheuro tair gwaith nawr.
"Hefyd, ydi'r cyngor yn mynd i ddweud wrth y staff eu bod am golli eu swyddi os ydyn nhw'n defnyddio gwefan y Sun er enghraifft?"