Dau heddwas wedi anafu mewn gwrthdrawiad ger Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod dau heddwas wedi anafu yn dilyn gwrthdrawiad ffordd rhwng Abertawe a Llanelli.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car heddlu a lori ar ffordd yr A4138 rhwng Talyclun a'r Hendy am 02:40 fore Mercher.
Cafodd y ddau swyddog eu cludo i'r ysbyty gyda man anafiadau, ond maen nhw bellach wedi cael mynd adre'.
Ni chafodd gyrrwr y lorri unrhyw anafiadau yn y digwyddiad.
Fe gafodd y ffordd sy'n ymuno â thraffordd yr M4 a rhan o'r A4138 eu cau am gyfnod tra bod yr heddlu yn cynnal ymchwiliad i'r gwrthdrawiad.
Roedd y ffyrdd wedi ailagor erbyn 08:30.