Mudiad eithafol National Action: Arestio dau o Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn o Abertawe ymhlith 11 sydd wedi eu harestio fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i'r grŵp eithafol asgell dde, y National Action.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Sir Gorllewin Efrog fod dyn 23 oed a dyn 28 oed wedi eu harestio yn Abertawe, yn ogystal â dynion yng ngogledd Lloegr, ardal Gorllewin Efrog a Wiltshire.
Daw hyn wedi i ddyn 32 oed o Bowys gael ei arestio ar amheuaeth o fod yn aelod o'r un grŵp ddechrau Medi.
'Hyrwyddo safbwyntiau eithafol'
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Martin Snowden, sydd wedi ei benodi'n bennaeth Uned Plismona Gwrth Derfysgaeth Gogledd Ddwyrain Lloegr, fod hyn yn rhan o'r ymdrechion i atal pobl sy'n "hyrwyddo safbwyntiau eithafol asgell dde" rhag creu "rhwygiadau cymunedol drwy daenu casineb".
"Fydd hyn ddim yn cael ei oddef a dylid dwyn y rhai sy'n gwneud hynny i gyfri," meddai.
"Fe ddylai unrhyw un sydd â phryderon am weithredu eithafol posib gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu'n gyfrinachol ar 0800 798 321. Mewn argyfwng, ffoniwch 999."
Dywedodd Neil Basu, Uwch Swyddog Gwrth derfysgaeth gyda Heddlu Llundain: "Mae arestiadau heddiw yn ganlyniad i ddau ymchwiliad gwahanol sydd wedi eu cydlynu gan ein swyddogion o nifer o luoedd.
"Mae hyn yn galluogi'r heddlu i wneud eu gwaith mor effeithiol â phosib tra'n tarfu cyn lleied â phosib ar gymunedau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017

- Cyhoeddwyd11 Medi 2017

- Cyhoeddwyd10 Medi 2017

- Cyhoeddwyd7 Medi 2017
