Y beirdd sy'n brwydro blinder
- Cyhoeddwyd

Bydd Elin Fflur gyda chriw yr her ar raglen Heno ar S4C... heno, am 19:00
Mae'r amser wedi dod eto eleni i gadw beirdd yn effro drwy'r nos a gofyn iddyn nhw 'sgrifennu 100 o gerddi.
Y pedwar bardd sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn Her Can Cerdd Llenyddiaeth Cymru 2017 ydy Karen Owen, Rhys Iorwerth, Iestyn Tyne a Gwynfor Dafydd.
Mae'r her yn digwydd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, a gallwch ddilyn eu hynt a'u helynt ar wefan Llenyddiaeth Cymru neu drwy ddilyn yr hashnod #Her100Cerdd ar Twitter - proses sydd wedi ei ymdebygu i "Springwatch barddonol" gan y prifardd Aneirin Karadog.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r pedwar bardd yn gorfod ysgrifennu 25 o gerddi yr un rhwng hanner dydd ar Fedi 27 i hanner dydd ar Fedi 28 ac felly maen nhw'n gofyn am geisiadau a syniadau gan y cyhoedd i'w helpu.
Mae hynny'n golygu ei bod yn adeg da i gael eich pen-blwydd os ydych chi eisiau cerdd fel un Karen Owen i Gwen Lasarus:
Gwen Lasarus ar ei Phen-blwydd Arbennig
Ni ŵyr Gwen beth yw henoed; Gwen y gân
a geir mewn ieuengoed,
a'r un a fu Gwen erioed
ydi'r Gwen sy'n drigeinoed.

Mae cyfuniad o'r llon a'r lleddf yn cael eu cyfansoddi.
Daeth cais gan Paula Cook am gerdd i bentref Senghennydd lle gwelwyd y drychineb fwyaf yn hanes y diwydiant glo yng Nghymru 104 o flynyddoedd yn ôl.
Lladdwyd 439 o ddynion a bechgyn yn y ffrwydriad enfawr ym mhwll glo Universal.
Ysgrifennodd Gwynfor Dafydd gerdd am un o'r glowyr.
Senghennydd
Mor dwym oedd dŵr ei fath boreol, mor braf
y bore hwnnw, a hithau 'di codi'n gynnar
i arllwys diferion ei hymrwymiad i'r twb.
Sgrwbiodd hagrwch y gwaith oddi ar gefn
ei gŵr a mwytho'r straen oedd yn dalpiau
lletchwith yn ei wallt. Ac am eiliad, nid oedd craith
na phoen, dim ond dwylo tyner yn cloddio'r
tyndra o'r corff. Heno, mae hi'n dal i fod yno
ger y bath, yn gwlychu'r twb â diferion
ei thorcalon. A'r dŵr yn oer.

Cychwynnodd Rhys Iorwerth a Karen Owen gyfansoddi ar Raglen Aled Hughes, Radio Cymru bore 'ma.
Cafodd her ei gosod iddyn nhw ysgrifennu am un o bynciau trafod y rhaglen, y rhododendron.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Rydyn ni wedi gweithio efo'n gilydd o'r blaen mewn ymrysonau a ballu felly rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n gallu gweithio efo'n gilydd a bownsio oddi ar ein gilydd pan ydan ni'n cynganeddu," meddai Karen Owen ar y rhaglen.
Mae'r cerddi'n cael eu cyhoeddi ar flog Llenyddiaeth Cymru, dolen allanol gyda linc o'u cyfrif Twitter, dolen allanol a hefyd o'u tudalen Facebook. , dolen allanol