Cleifion gafodd waed wedi'i heintio eisiau iawndal
- Cyhoeddwyd

Bydd dwsinau o bobl o Gymru gafodd drallwysiad o waed oedd wedi ei heintio yn y 70au a'r 80au, yn gwneud cais am iawndal yn dilyn canlyniad achos yn yr Uchel Lys, meddai un Aelod Cynulliad.
Cafodd cleifion eu heintio gyda hepatitis C a HIV ar ôl i roddwyr gwaed, gan gynnwys carcharorion yn America, werthu eu gwaed.
Cafodd y gwaed hwnnw ei ddefnyddio maes o law gan y Gwasanaeth Iechyd i drin cyflyrau fel haemophillia.
Yn yr Uchel Lys ddydd Mawrth fe enillodd grŵp o ddioddefwyr o bob cwr o Brydain yr hawl i fynd ag achos i'r llys er mwyn hawlio iawndal.
Ddydd Mercher cafodd y pwnc ei drafod yn ystod cyfarfod o bwyllgor trawsbleidiol ar haemophillia a gwaed wedi ei heintio yn y Cynulliad Cenedlaethol.
'Anghyfiawnder enfawr'
"O beth dwi'n ei ddeall mae rhwng 20 a 30 o bobl o Gymru o fewn y grŵp yma sydd wedi dangos diddordeb mewn hawlio iawndal," meddai'r cadeirydd, Julie Morgan AC.
"Hyd yn hyn mae 70 o bobl yng Nghymru wedi marw a 273 o ddioddefwyr yn parhau i fyw gyda'r cyflyrau sy'n gallu bygwth bywyd ar ôl derbyn y gwaed yma oedd wedi ei heintio."
Dywedodd hefyd bod y grŵp o ddioddefwyr yn galw ar Lywodraeth San Steffan i benodi barnwr i arwain yr ymchwiliad cyhoeddus sy'n cael ei drefnu "er mwyn darganfod beth arweiniodd at y trasiedi hwn".
"Mae 'na anghyfiawnder enfawr yn fan hyn," meddai Ms Morgan.
"Mae'n un o'r sgandalau gwaethaf allwch chi feddwl amdano."
Cafodd yr ymchwiliad cyhoeddus i'r achosion ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog, Theresa May ym mis Gorffennaf.