Rhybudd tywydd melyn am law trwm dros Gymru gyfan
- Cyhoeddwyd

Mae rhybudd tywydd melyn am law trwm a gwyntoedd cryfion dros Gymru gyfan wedi'i gyhoeddi ar gyfer y penwythnos.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod disgwyl i hyd at 50mm o law ddisgyn ar dir uchel.
Mae'r rhybudd hefyd yn son am wyntoedd cryfion, ond bydd y gwyntoedd ar eu cryfa' - hyd at 50mya - yn y prynhawn wrth i'r glaw ddechrau clirio.
Mae oddeutu 25,000 o redwyr yn paratoi i redeg Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul.
Mae trefnwyr eisoes wedi dweud wrth y rhedwyr i fod yn barod ar gyfer y tywydd gwael.
"Cadwch olwg ar y rhagolygon, gwisgwch yn briodol ac ystyriwch wisgo siaced neu ddillad sy'n addas," yw'r cyngor sydd wedi ei roi.
Mae disgwyl i law symud i mewn dros nos Sadwrn a fore Sul, gan ddisgyn yn drwm yn ystod yr oriau mân.
Ond fe ddylai ddechrau clirio tua'r de-ddwyrain wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen.
Mae'r rhybudd tywydd melyn mewn grym o hanner nos tan 18:00 ddydd Sul, 1 Hydref.