Defnyddio technoleg ynni solar arloesol ar Ynys Echni
- Cyhoeddwyd
Ynni solar arloesol ar Ynys Echni
Mae technoleg ynni solar arloesol yn cael ei defnyddio ar Ynys Echni, ar arfordir Caerdydd, i gwrdd ag anghenion trydan cynyddol ar yr ynys.
Mae'r system Rapid Roll yn caniatáu i baneli solar hyblyg gael eu gosod fel carpedi mewn dau funud.
Nod y dechnoleg yw cwrdd â'r gofynion cynyddol a heriau amgylcheddol a logistaidd, sy'n dod yn sgil twristiaeth.
Y gobaith yw bydd y dechnoleg yn cynnig ateb i ardaloedd sy'n cael eu taro gan drychinebau naturiol fel corwyntoedd yn y dyfodol.
Dyma'r tro cyntaf i'r system gael ei defnyddio yng Nghymru, a dyma'r defnydd hirdymor cyntaf o'r dechnoleg yn unrhyw le yn y DU.
Ychydig o effaith ar yr amgylchedd
Datblygwyd y dechnoleg gan John Hingley, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Renovagen, sydd wedi'i leoli yn Milton Keynes.
Gobaith y cwmni ydi gallu "cynhyrchu llawer o drydan, allan o rhywbeth sydd ddim yn cymryd llawer o le, a hynny heb gael fawr o effaith ar yr amgylchedd."
Gall cerbyd 4x4 gludo digon o baneli solar i bweru clinic heu ganolfan feddygol 120 wely, neu i bweru offer sy'n gallu puro 25,000 litr o ddŵr môr bob dydd.
"O'i gymharu â phaneli traddodiadol anhyblyg, gallwn ffitio hyd at 10 gwaith yn fwy o'r paneli yma yn lle'r rhai traddodiadol." meddai Mr Hingley.

Mae Ynys Echni, sy'n eistedd yn y Môr Hafren, yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig oherwydd y planhigion a'r adar sy'n byw yno.
Nid oes gan yr ynys fynediad i'r prif gyflenwad trydan, ac mae'r ynys wedi bod yn dibynnu ar gyfuniad o beiriannau disel a phaneli solar traddodiadol i ddarparu trydan.
Yn ôl arweinydd tîm Ynys Echni, Natalie Taylor, mae darparu trydan ar gyfer yr ynys wedi bod yn "her".
"Wrth i ni hyrwyddo'r ynys fwy, byddwn yn cael mwy o ymwelwyr yma, a bydd llawer mwy o alw am drydan, felly mae'n bwysig iawn bod gennym system weithredol a all ddarparu ar gyfer y bobl hynny," meddai.
"O safbwynt amgylcheddol, rydym am leihau'r defnydd o beiriannu disel er mwyn i ni allu lleihau'n ôl troed carbon."