Carcharu dyn am ffilmio'i hun yn cam-drin merch dair oed
- Cyhoeddwyd

Cafodd Trevor Vinson ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun
Mae dyn o Sir Benfro wnaeth ffilmio ei hun yn cam-drin merch dair oed yn rhywiol wedi'i garcharu am 15 mlynedd.
Fe wnaeth Trevor Vinson, 38 oed o Benfro, ffilmio'r gamdriniaeth ar ffôn symudol, gan ei guddio mewn hwfer pan ddaeth yr heddlu i'w ddrws.
Ond fe wnaeth partner Vinson ddarganfod y ffôn a'i basio i'r heddlu.
Fe wnaeth Vinson bledio'n euog i chwe chyhuddiad o ymosodiad rhyw a thri chyhuddiad o wneud fideo anweddus o blentyn.
Bydd yn wynebu estyniad o chwe blynedd i'w ddedfryd os yw'n torri amodau ei drwydded wedi iddo gael ei ryddhau.
10 mlynedd dan glo
Clywodd Llys y Goron Abertawe nad oedd y plentyn yn perthyn i Vinson, a'i bod wedi dweud wrth ei rhieni ei fod wedi ei chyffwrdd.
Fe wnaeth tad y ferch godi'r mater gyda Vinson, ond gwadodd bod unrhyw beth amheus wedi digwydd.
Ond pan wnaeth y ferch ddweud wrth ei mam-gu, fe wnaeth hi gysylltu â'r heddlu.
Pan wnaeth yr heddlu ddangos y ffôn a'r fideos iddo, gwadodd Vinson mai fe oedd yn ei berchen, ac nad fe oedd wedi ffilmio'r clipiau.
Bydd yn rhaid i Vinson dreulio o leiaf 10 mlynedd dan glo, a bydd hefyd yn destun gorchymyn atal niwed rhyw.