Colli 90 o swyddi wrth gau ffatri yng Nglannau Dyfrdwy
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni Witton Towbars wedi bod ar Lannau Dyfrdwy ers 50 mlynedd
Mae cwmni sy'n gweithgynhyrchu cydrannau ceir yn Sir y Fflint wedi cyhoeddi y byddan bwrw ymlaen gyda'u bwriad i gau eu ffatri yng Nglannau Dyfrdwy.
Fis Awst fe rybuddiodd cwmni Horizon bod dyfodol eu ffatri Witton Towbars yn y fantol, a'u bod am ail-leoli'r gwaith i "wledydd lle mae'r gost o gynhyrchu yn isel".
Cafodd cyfnod ymgynghori 90 diwrnod ei lansio fis Awst gyda'r gweithwyr ac undeb Unite. Y gred ar y pryd oedd bod y cwmni eisiau dod a'r gwaith i ben erbyn diwedd Rhagfyr.
Ddydd Mawrth fe gadarnhaodd y cwmni y bydd y gwaith cynhyrchu ar y safle yn dod i ben.
'Gweithwyr wedi eu siomi'
Dywedodd undeb Unite nad oedd y cyhoeddiad hwn wedi eu synnu.
Dywedodd Jo Goodchild, swyddog rhanbarthol yr undeb: "Fe geision ni fel undeb ein gorau i achub y swyddi, ond ar ddiwedd y dydd roedd hi'n amlwg i ni fod Horizon eisoes wedi troi eu sylw at geisio cynyddu elw drwy leihau costau llafur, drwy drosglwyddo'r gwaith i Rwmania."
"Mae'r gweithwyr a'u teuluoedd wedi eu siomi'n enfawr gan y penderfyniad, fel sydd i'w ddisgwyl."
Pan ddaeth y newydd am yr ymgynghoriad gyda staff, dywedodd Carl Sargeant, Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy ei fod "wedi syfrdanu" gan y cyhoeddiad, ac y "byddai'n ysgrifennu at Ysgrifennydd yr Economi i ofyn pa gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru".
Y gred ydy y bydd swyddi gwerthu a gweinyddu yn parhau ar y safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2017
