Diffoddwyr yn ceisio rheoli tân yng nghanol Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr yn ceisio rheoli tân mewn siop gyferbyn â Chastell Caerdydd.
Mae Heol Y Castell, yr A4161, yng nghanol y ddinas wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y tân mewn adeilad rhwng Heol Y Porth a Ffordd y Brenin.
"Mae sawl criw wedi eu galw i'r digwyddiad."
