Cymru ac Iwerddon yn creu partneriaeth bêl-droed gymunedol
- Cyhoeddwyd

Bydd partneriaeth bêl-droed newydd rhwng Cymru ac Iwerddon, sydd wedi ei chyhoeddi ddydd Gwener, yn ceisio gwella cymunedau'n y ddwy wlad.
Bydd €1m o arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi yn y cynllun, gyda'r bwriad o wneud clybiau yn fentrau cymdeithasol all "gyflwyno amrywiaeth o raglenni addysgol a gwyddorau bywyd" wedi eu seilio ar chwaraeon.
Cynllun peilot fydd menter 'Mwy na Chlwb', a hynny rhwng pedwar clwb yng Nghymru ac Iwerddon.
Hyd yma mae clybiau Hwlffordd, Cork City a Bohemian FC wedi ymuno a'r fenter.
Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon a sefydliad chwaraeon Vi-Ability yng Nghymru fydd yn cydweithio fel rhan o'r fenter, gyda chefnogaeth rhaglen Ewropeaidd sy'n ceisio mynd i'r afael â heriau economaidd a chymdeithasol sy'n gyffredin rhwng Cymru ac Iwerddon.
Bydd y cynllun yn cyflwyno:
Rhaglenni i wella iechyd corfforol a meddyliol mewn cymunedau;
Cyfleoedd dysgu amgen i blant;
Rhaglenni cymdeithasol i wella ansawdd bywyd yn lleol.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru bod y cynllun yn "ffordd greadigol iawn o fynd ati i wella iechyd a lles mewn cymunedau lleol".
Ychwanegodd Mark Drakeford bod cydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon yn "gyfrwng pwysig" sy'n "creu cyfleoedd i'n busnesau, ein prifysgolion a'n sefydliadau arbenigol i weithio gyda'i gilydd".
Dywedodd Rheolwr y Prosiect o Gymdeithas Bêl-droed Iwerddon, Derek O'Neill: "Mae pêl-droed yn gêm ddeniadol iawn i'w chwarae, ei gwylio ac i siarad amdani i filiynau o bobl, ond gall hefyd fod yn gyfrwng grymus i hyrwyddo iechyd corfforol, datblygiad personol, datblygiad cymunedol a llesiant yn gyffredinol."