M4 ar agor wedi gwrthdrawiad difrifol

  • Cyhoeddwyd
Image of queueFfynhonnell y llun, @Richard16814
Disgrifiad o’r llun,

Ar un adeg roedd tagfa draffig hyd at 16 milltir

Cafodd rhan o'r M4 ei chau am gyfnod yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ger Casnewydd.

Ar un cyfnod bu traffig yn ciwio am 16 milltir o gyffordd 29, gyda phob lon tua'r dwyrain ar gau rhwng C24 (Coldra) a C23 (M48).

Roedd llawer o'r traffig yn llonydd oherwydd y digwyddiad, ac nid oedd cerbydau'n cael symud tan yr oedd yn ddiogel i wneud hynny.

Cafodd dwy lôn ar y ffordd tua'r gorllewin hefyd eu cau.

Aeth Ambiwlans Awyr Cymru, Heddlu Gwent a dau griw o ddiffoddwyr ar y safle.

Fe gafodd yr heddlu eu galw gyntaf am 14:09 brynhawn Mawrth.

Erbyn 19:45 nos Fawrth, roedd pob lon wedi ailagor, ond roedd traffig yn dal yn drwm mewn mannau oherwydd yr oedi cynharach.

Image of queueFfynhonnell y llun, Traffic Camera Wales
Disgrifiad o’r llun,

Ciwiau am 16 milltir o gyffordd 29 o'r M4