Ymchwilio i gwyn yn erbyn heddwas mewn rali wleidyddol

  • Cyhoeddwyd
corbynFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Daeth nifer o gefnogwyr Llafur i weld Jeremy Corbyn ar draeth Bae Colwyn ar 7 Mehefin

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (CCAH) wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i gwyn am heddwas yn dilyn digwyddiad mewn rali wleidyddol yng ngogledd Cymru.

Fe wnaeth ffotograffydd proffesiynol gwyn yn erbyn aelod o Heddlu'r Met, wedi iddo ddioddef anafiadau a difrod i'w offer yn ystod rali'r Blaid Lafur ym Mae Colwyn ar 7 Mehefin.

Mae CCAH wedi dechrau ymchwiliad troseddol i'r lefel o rym gafodd ei ddefnyddio.

Mae'r swyddog dan sylw yn aelod o'r uned sy'n amddiffyn y Teulu Brenhinol a gwleidyddion blaenllaw, ac mae wedi cael gwybod y gallai wynebu cyhuddiadau posib o ymosod a difrod troseddol.

Dywedodd Comisiynydd y CCAH, Cindy Butts: "Roedd hwn yn ddigwyddiad yn llygad y cyhoedd, mewn digwyddiad mawr, ac er mwyn cynnal hygrededd yr heddlu, mae'r mater yn cael ei ymchwilio gan y Comisiwn.

"Rydym yn edrych ar lefel y grym gafodd ei ddefnyddio ac os oedd hynny yn angenrheidiol."