Ymgeiswyr i arwain Dem Rhydd Cymru yn pledio'u hachos
- Cyhoeddwyd

Mae'r ddau ymgeisydd yn y frwydr i ddod yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn pledio eu hachos i aelodau'r blaid yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn.
Jane Dodds ac Elizabeth Evans yw'r ddwy sydd yn ymgeisio i olynu Mark Williams, wnaeth adael fel yr arweinydd yng Nghymru ar ôl colli ei sedd yn yr etholiad cyffredinol.
Ers hynny mae cyn-arweinydd y blaid, Kirsty Williams wedi cymryd yr awenau eto dros dro.
Dywedodd y swyddog canlyniadau, yr Arglwydd German fod gan y blaid ddau ymgeisydd "galluog" wrth i'r blaid geisio ailadeiladu.
Bydd yr ymgeiswyr yn cwrdd eto yng Nghaerfyrddin ddydd Sul ac yna yn Yr Wyddgrug ddydd Sadwrn nesaf.