Gŵyl Fwyd Llangollen yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed
- Cyhoeddwyd

Bydd tref yng ngogledd Cymru yn dod yn gyrchfan i garwyr bwyd o bob rhan o'r wlad dros y penwythnos.
A hithau'n 20 mlynedd ers ei sefydlu, mae disgwyl i filoedd o bobl dyrru i Ŵyl Fwyd Llangollen ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yn 1997, ac ers hynny mae'r digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth gan ddenu tua 8,000 o bobl y flwyddyn.
Mae'r digwyddiad yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Cafodd ei henwi fel un o'r 10 gŵyl fwyd gorau yn y DU gan bapurau newydd yr Independent a'r Daily Telegraph.
Yr amcangyfrif yw bod yr ŵyl yn cyfrannu bron i £400,000 i'r economi leol bob blwyddyn, gan gyfrannu cyfanswm o £8m ers 1997.
Bydd rhai o brif gogyddion y wlad, gan gynnwys Bryan Webb o fwyty Tyddyn Llan, cyn-gapten tîm Coginio Cymru, Graham Tinsley, a Dai'r Chef yn cynnal dosbarthiadau meistr ac arddangosfeydd.