Dyn wedi'i drywanu a'i anafu'n ddifrifol ar drên

  • Cyhoeddwyd
gorsaf pontlotynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei drywanu pan oedd y trên yn agos at orsaf Pontlotyn

Mae'r heddlu wedi arestio dau ddyn wedi i ddyn arall gael ei anafu'n ddifrifol mewn digwyddiad ar drên yng Nghaerffili.

Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth y DU fod dyn yn ei 20au wedi ei drywanu yn ei frest mewn digwyddiad am 17:30 ddydd Gwener ger gorsaf Pontlotyn.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw, ac fe gafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Roedd y trên yn teithio rhwng Penarth a Rhymni ar y pryd.

'Camau cychwynnol'

Mae dau ddyn bellach wedi eu harestio ac yn parhau yn y ddalfa - un ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac o gario arf peryglus, a'r llall ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.

Dywedodd y Sarsiant Benjamin Randall-Webb o Heddlu Trafnidiaeth y DU: "Rydyn ni dal yng nghamau cychwynnol ein hymchwiliad ac yn gweithio ar frys i geisio darganfod beth ddigwyddodd.

"Mae dyn wedi dioddef anafiadau difrifol ac ar hyn o bryd mae'n derbyn triniaeth arbenigol yn yr ysbyty.

"Rydyn ni'n ymwybodol ei fod yn drên prysur ac yn awyddus i siarad â theithwyr oedd yno ac a welodd beth ddigwyddodd. Os oeddech chi ar y trên, cysylltwch os gwelwch yn dda achos fe allai eich gwybodaeth fod yn hanfodol."

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i ffonio 0800 40 50 40 neu decstio 61016.