Uwch Gynghrair: Abertawe 2-0 Huddersfield

  • Cyhoeddwyd
tammy abrahamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tammy Abraham bellach wedi sgorio pedair gôl dros Abertawe yn yr Uwch Gynghrair ers ymuno ar fenthyg o Chelsea

Mae Abertawe wedi codi i'r 13eg safle yn yr Uwch Gynghrair ar ôl trechu Huddersfield gartref diolch i ddwy gôl gan Tammy Abraham.

Toc cyn yr egwyl fe sgoriodd Abraham ei gôl gyntaf o'r prynhawn, wrth i gamgymeriad gan golwr Huddersfield Jonas Lössl roi cyfle i Tom Carroll fwydo'r ymosodwr.

Tri munud wedi dechrau'r ail hanner roedd wrthi eto, gan brocio'i ail i gefn y rhwyd yn dilyn ergyd Jordan Ayew.

Cafodd gyfleoedd i gwblhau'r hat-tric, ond fe fethodd gyfle yn gyntaf o groesiad Luciano Narsingh ac yna o bêl Nathan Dyer, ddaeth ymlaen fel eilydd yn dilyn wyth mis allan ag anaf.

Roedd hynny'n ddigon fodd bynnag i sicrhau buddugoliaeth gyntaf yr Elyrch yn y gynghrair ers mis Awst, a'u cyntaf yn Stadiwm Liberty y tymor hwn.